Amdanom

Cartref > Amdanom


Tree with roots

Mae Gwreiddiau Llys Derwen yn Ddwfn

Dechreuodd y stori nol yn y 60au pan sefydlwyd nain a taid Heledd wersyll cyntaf y teulu, mewn safle cyfagos i Llys Derwen. Gan ddechrau gydag ychydig o bebyll, datblygodd i fod yn barc hamdden, gyda dros 100 o safleoedd aros.

  • First Llys Derwen Caravan Park, Snowdonia
  • First Llys Derwen Caravan Park, Snowdonia
  • First Llys Derwen Caravan Park, Snowdonia

Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu rhieni, agorwyd Llys Derwen yn Llanrug yn 1997, gyda Bethan ac Emrys wrth y llyw. Datblygodd y pâr y parc bach 5 safle i fod yn barc llwyddiannus gyda mwy o safleoedd aros, a dwy garafan sylfaenol barhaol yn y parc, ynghyd ac ymestyn a diweddaru eu cyfleusterau o’r newydd i gyd i groesawu pob math o gerbydau gwyliau a phebyll. tripadvisor.  

  • Emrys Jones
  • Llys Derwen Caravan and Camping site in 1997
  • Bethan, W H Griffith & Heledd

Yn dilyn ôl llwybrau traed ei theulu, croesawodd Llys Derwen Heledd yn ôl adref, ynghyd a’i gwr Nathan ai efeilliaid i'r parc ar ddiwedd 2022, gyda’r teulu bach yn cymryd drosodd yr awenau yn 2023. Er bod Emrys a Bethan (Mam a Dad) wedi ymddeol y llynedd, bydd y ddau yn siŵr o fod yn wynebau parhaol yn y parc, ac yn dangos y ffordd ymlaen iddynt, wrth ymgymryd ar her gyffrous o barhau’r busnes teuluol. 
. . . Ymlaen a ni i’r ddegawd nesaf   . . .   

  • Emrys & Grandchildren @ Llys Derwen, Campsite, North Wales
  • Parc Gwersylla Llys Derwen yn 2022
  • Nathan, Heledd & Emrys @ Llys Derwen, Campsite, North Wales 2022

Ein Gwersyll Ni

Mae gan ein maes gwersylla safleoedd hardd mewn caeau gwyrdd wedi'u marcio'n glir, gyda ffyrdd pwrpasol yn arwain o gae i gae sy’n hwyluso symud o le i le yn y parc. Mae lawntiau hafal, a gwrychoedd wedi ei tocio'n daclus yng nghysgod coed aeddfed yn gwneud y lle yn berffaith ar gyfer ymlacio.

Mae Eryri yn chwa o awyr iach yng Ngogledd Cymru, lle mae'r mynyddoedd yn cyrraedd yr arfordir a’r traethau tywodlyd hardd a childraethau creigiog yno i'ch hudo i dreulio dyddiau'n ymlwybro ger y môr.

P'un a ydych yn aros am wyliau byr neu wyliau hirach, byddwch yn mwynhau'r atyniadau niferus sydd gan yr ardal i'w cynnig -  megis traethau baner las godidog, cestyll canoloesol, amgueddfeydd diddorol, orielau trawiadol, parciau cain, pyllau glo hynafol a rheilffyrdd stêm.

Os yn chwilio am rywbeth mwy anturus, beth am roi cynnig ar linell Zip gyflymaf  y byd a'r hiraf yn Ewrop) sydd ond 8 milltir o'r safle yn yr enwog ‘Zip World.

Mae ein parc wedi ei leoli hanner ffordd rhwng Llanberis a Chaernarfon (tair milltir bob ffordd). Mae Llanberis yn cael ei adnabod fel "Porth i Barc Cenedlaethol Eryri" ac mae'n boblogaidd iawn gyda thwristiaid a phobl leol oll.  Mae'r ardal hon yn llawn hanes gyda threftadaeth ddiwylliannol gref a golygfeydd gwych o Fynyddoedd Eryri

Mae Caernarfon yn dref arfordirol sy’n gartref i un o gestyll canoloesol hynafol enwocaf Cymru. Wedi'i adeiladu gan Edward 1 yn ôl yn y 13eg ganrif, mae’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd i'r dref. Mae ein parc hefyd o fewn cyrraedd i Afon Menai, rhagoriaeth Ynys Môn a hud a lledrith Phen Llŷn. Mae ei’n lleoliad cyfleus ynghyd a’n cyfleusterau modern glan, a chroeso cynnes Cymreig yn gynhwysion perffaith ar gyfer gwyliau i’w gofio.