Llys Derwen
Dewch I fwynhau gwyliau anturus yng nghalon gogledd Cymru ym mharc gwersylla Llys Derwen. Parc bach teuluol ym mhentref Llanrug, ger Llanberis yn Eryri, sy’n croesawu carafanau, pebyll, faniau gwyliau a thentiau trelar – neu beth am logi un o’r ddwy garafan fawr sydd ganom yn y parc ar gael i’w llogi yn wythnosol. Rydym yn agos at Dref Frenhinol Caernarfon a Dinas Prifysgol Bangor, a thafliad carreg oddi wrth rhai o draethau hyfrytaf Cymru. Disgrifiwyd yr ardal hon fel “Nefoedd ar y Ddaear” ar ôl treulio eich gwyliau yma, byddwch chithau’n siŵr o ddweud yr un fath. Wedi'i leoli ger godre'r Wyddfa, mae’r parc yn le perffaith ar gyfer mynd ar antur i'r mynyddoedd cyfagos, neu i ymlacio yng nghefn gwlad Cymru ac ail gysylltu â natur.
Llwyddodd ein parc i gyrraedd brig rhestr parciau gwersylla Gogledd Cymru am dair blynedd yn olynol ar TripAdvisor.