Cyngor ar Farathon Eryri
Cartref > Blog > Cyngor ar Farathon Eryri
Dyma ein 10 prif awgrym ar hyfforddi ar gyfer marathonau mynydd. Gobeithiwn y bydd rhywfaint o gyngor neu nodiadau atgoffa i chi eu defnyddio ar fynyddoedd Eryri, p’un a ydych yn newydd i’r profiad neu’n gystadleuydd profiadol. Mwynhewch a chael hwyl!
1. Meistrolwch eich sgiliau llywio
Nid yw marathonau mynydd ar gyfer pobl sy’n hynod ystwyth ar y mynydd a rhedwyr uwchfarathon yn unig. Gall unrhyw un sy’n cerdded neu’n rhedeg yn y bryniau’n rheolaidd, sy’n weddol heini ac, yn hollbwysig, sydd â sgiliau llywio da gymryd rhan.
Ymarferwch lywio. Ffordd dda o wneud hyn yw cymryd rhan mewn digwyddiadau cyfeiriannu anffurfiol. Sicrhewch y gallwch ddefnyddio map a chwmpawd, adnabod mannau ar fap drwy gyfeirnodau grid a deall beth yw pant sy’n ymestyn i mewn i lethr. Mae’r rhain yn nodweddion poblogaidd ar gyfer pwyntiau rheoli ymhlith cynllunwyr cyrsiau — yn enwedig ein rhai ni!
2. Hyfforddwch gyda’ch partner
Hyfforddwch gyda’ch partner ar dir tebyg i ddeall cryfderau a gwendidau eich gilydd. Dylai hyn gynnwys o leiaf un diwrnod yn y bryniau yn llywio rhwng pwyntiau.
Mae marathonau mynydd yn heriol yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae’n fanteisiol cytuno ar eich strategaethau rasio cyn y digwyddiad: cyfathrebu, pwy sy’n cario pa offer, llywio, cyflymder, beth i’w fwyta ac ati. Sicrhewch fod gan y ddau ohonoch nodau tebyg, boed yn gorffen y digwyddiad, cyrraedd hanner uchaf eich dosbarth neu ennill.
3. Ewch allan ar dir tebyg
Ewch allan i’r bryniau, oddi ar y llwybrau, a dod â’ch coesau i arfer â thraciau garw a thir garw iawn megis corsydd, creigiau a grug dwfn. Ymarferwch ddefnyddio cardiau llwybr o flynyddoedd blaenorol.
Cadwch olwg ar eich llywio bob amser a neilltuwch amser iddo. Bydd camgymeriadau diangen yn costio amser, safleoedd yn y ras a llawer o rwystredigaeth. Cofiwch gadw llygad ar y tywydd: mae llywio cyn i’r niwl ddisgyn yn llawer haws!
4. Defnyddiwch yr offer y byddwch yn eu defnyddio yn y digwyddiad
Wrth hyfforddi, defnyddiwch yr offer a fydd gennych yn y digwyddiad ei hun. Y pethau pwysicaf i’w cael yn iawn, yn ôl ein cystadleuwyr, yw sanau ac esgidiau. Dewiswch bâr da iawn o sanau i osgoi pothelli ar eich traed! Sicrhewch eich bod wedi dod i arfer â’ch esgidiau, a phrofwch eich dillad dros ddiwrnodau hir yn y bryniau i sicrhau nad yw’r semau’n rhwbio eich croen.
Efallai ei fod yn amlwg, ond ymarferwch godi a thynnu eich pabell mewn tywydd gwlyb a sych. Nid ar ôl diwrnod hir yn y bryniau yw’r amser i ddysgu sut i godi eich pabell newydd.
5. Bwyd
Mae bwyd yn beth personol iawn. Sicrhewch eich bod yn bwyta’n rheolaidd, o leiaf bob 5 km, a chyn i chi deimlo’n llwglyd, gan ei bod yn rhy hwyr wedyn. Dewiswch fwyd â dwysedd egni uchel, megis bariau egni, cnau a chacen fintys Kendal, a bwydydd â chynnwys dŵr isel, er mwyn osgoi ychwanegu pwysau at eich sach gefn.
Dewch â digon o fwyd ar gyfer y noson, gan y bydd yn eich cynnal drwy’r nos a’r ail ddiwrnod. Mae llawer o gystadleuwyr yn dod â phrydau wedi’u dadhydradu sydd ar gael mewn siopau awyr agored da. Yn ystod eich rhediadau hyfforddi, gweithiwch allan pa fwyd sy’n addas i chi a phryd.
6. Dŵr
Mae Marathon Mynydd Eryri yn her gorfforol, felly bydd angen yfed llawer o ddŵr drwy gydol y ras, yn enwedig os yw’n gynnes neu’n heulog. Mae rhai’n dod â chwpan plastig sy’n bachu ar eu sach gefn er mwyn yfed o nentydd. Mae eraill yn dod â photeli dŵr y maent yn eu llenwi o nentydd ac yn yfed ohonynt ar y mynydd.
Peidiwch â chario gormod o ddŵr, gan y bydd yn ychwanegu at bwysau eich sach gefn.
7. Gwnewch bethau wrth symud
Os ydych yn newydd i Farathon Mynydd Eryri, efallai y bydd angen amser ychwanegol i gynllunio, llywio a chael eich gwynt yn ôl. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn gwneud popeth wrth symud.
Mae’n syndod faint o amser a gollir drwy stopio i gynllunio, edrych ar y golygfeydd, bwyta neu ymdroi. Byddwch yn gwybod eich terfynau a’ch dewisiadau eich hun; mae’n well gan rai stopio, cynllunio’r llwybr i’r pwynt gwirio nesaf, cael seibiant ac yna symud ymlaen.
8. Ymarferwch gyda sach gefn
Wrth hyfforddi, cariwch sach gefn sydd o bwysau tebyg i’r un y byddwch yn ei defnyddio yn y digwyddiad, ac ymarferwch redeg i fyny ac i lawr bryniau gyda hi. Mae’n rhyfeddol sut y gall sach gefn amharu ar eich cydbwysedd; nid ydych am dreulio’r awr gyntaf, na’r diwrnod cyntaf hyd yn oed, yn addasu i redeg neu gerdded gyda sach drom.
Peidiwch â dod â gormod o offer, a phrynwch neu fenthycwch yr offer ysgafnaf y gallwch eu fforddio, megis pebyll a sachau cysgu. Gweithiwch allan beth y gallwch fynd hebddo. A oes gwir angen y bag ar gyfer eich ffyn cerdded?
9. Rhwbio’r croen
Gall dillad neu sach gefn sy’n rhwbio eich croen droi penwythnos gwych yn un poenus! Fel yn awgrym 4, hyfforddwch bob amser yn yr offer a fydd gennych yn y digwyddiad, a chariwch dun bach o Vaseline neu iraid arall i atal rhwbio.
Gallwch drosglwyddo’r Vaseline i bot bach i leihau’r pwysau.
10. Cadwch synnwyr digrifwch
Byddwch yn treulio oriau’n agos iawn at eich partner, felly bydd cadw synnwyr digrifwch a pheidio â chymryd popeth yn rhy ddifrifol yn eich helpu i fynd drwyddi. Mae hyn yn arbennig o bwysig os mai eich gwraig, gŵr, cariad neu gariadferch yw eich partner!
Gofalwch am eich gilydd. Gwiriwch sut mae eich partner yn teimlo. Anogwch ef neu hi i fwyta ac yfed. Cymerwch ychydig eiliadau i edmygu golygfeydd ysblennydd Parc Cenedlaethol Eryri ac i gofio pa mor ffodus ydych o’u mwynhau. Ac yn anad dim, mwynhewch!