Carafannau sefydlog

Cartref > Carafannau sefydlog


Carafán sefydlog Snowdon

  • Carafan
  • Ystafell Fyw
  • Cegin
  • Arwydd

Rydym yn ymfalchïo yng nglendid ein carafanau sefydlog!

Mae gennym garafán sefydlog hyfryd ar gyfer ein cwsmeriaid, lle mae croeso i anifeiliaid anwes.

Mae prif ran y garafán yn gynllun agored, sy’n cynnig lle da i deulu a ffrindiau ymlacio. Mae drysau’n agor ar ardal ddec neu batio helaeth gyda seddi awyr agored.

  • Mae lle i chwech o bobl gysgu yn ein carafán. Mae ganddi un brif ystafell wely â gwely dwbl a dwy ystafell â dau wely sengl ym mhob un. Mae ganddi hefyd ystafell gawod a thoiled ar wahân.
  • Mae ganddi gegin gyflawn gyda microdon, tostiwr, tegell, cyllyll a ffyrc, sosbenni, oergell-rhewgell maint llawn a ffwrn.
  • Mae gan y garafán wres canolog a theledu 27 modfedd yn y brif lolfa.
  • Wi-Fi am ddim i chi gadw i fyny â negeseuon e-bost a ffrydio eich hoff ffilmiau a rhaglenni teledu
  • Un ystafell wely ddwbl a dwy ystafell â dau wely sengl
  • Lleoliad tawel gyda pharcio preifat
  • Gwres canolog a thân nwy
  • Ger y traeth – dim ond pymtheg munud mewn car
  • Wedi’i lleoli wrth droed yr Wyddfa, gyda thaith o ddau i dri munud mewn car a gwasanaeth bws rheolaidd i Lanberis
  • Tafarn sy’n addas i deuluoedd, dim ond tri i bedwar munud o gerdded i ffwrdd
  • Dodrefn awyr agored i’w mwynhau
  • Golygfeydd hardd o fynyddoedd Cymru
  • Gall gwesteion y garafán sefydlog hefyd ddefnyddio ein siop fach, y golchdy ar y safle a chyfleusterau’r bloc toiledau a chawodydd, gan gynnwys man newid babanod.
  • Mae Caernarfon bum munud mewn car o’r maes gwersylla. Mae digon i’w wneud a llawer o leoedd i ymweld â nhw dafliad carreg i ffwrdd, gan gynnwys Zip World, gyda’r wifren wib gyflymaf yn y byd.
  • Mae pris y gwyliau hyn ar gyfer y llety yn unig.
  • Bydd angen i chi ddod â’ch tywelion eich hun.
  • Gallwch gyrraedd ar ôl 2 y prynhawn, a rhaid gadael erbyn 10 y bore.

Cysylltwch â ni yn post@llysderwen.com am ragor o wybodaeth, neu defnyddiwch ein tudalen ‘Archebu nawr’ i gael dyfynbris ar unwaith ac anfon ymholiad.

Rhoddir gostyngiadau ar gyfer arosiadau hirach :)