Dringo chwareli llechi Cymru

Cartref > Blog > Dringo chwareli llechi Cymru


Dringo yn chwareli llechi Llanberis

Hanes byr dringo yn chwareli llechi Llanberis: rhywbeth i’w brofi wrth wersylla!

Enillodd chwareli llechi Dinorwig statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2018

Enillodd chwareli llechi gogledd-orllewin Cymru statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2018. Ar un adeg, anfonwyd llechi a dorrwyd yma ledled y byd, gan doi’r Chwyldro Diwydiannol yn llythrennol. Yna dirywiodd y diwydiant yn ddirfawr, gan adael tirweddau rhyfeddol sy’n debyg i fyd ar ôl trychineb i selogion yr awyr agored eu harchwilio. Mae’r ail fwyaf o’r chwareli, Dinorwig, wedi dod yn baradwys i ddringwyr. Ond ble dechreuodd y cyfan, a phryd ddaeth y dringwyr?

Os nad ydych wedi clywed am Elidir, mae’n gymydog i’r Wyddfa. Mae’n codi gyferbyn â Llanberis, ac mae un ochr iddo ar goll. Yn lle llethrau gwyrdd meddal, mae esgyrn llechi’r mynydd yn y golwg mewn cyfres o bonciau chwarel wedi’u torri’n sgwâr, bron hyd at y copa. Bellach mae natur yn adennill y dirwedd: grug pinc, pyllau chwarel gwyrddlas a choed bedw unig wedi’u troelli gan y gwynt, yn cyferbynnu â thomenni uchel o wastraff llechi. Dyma Ddinorwig, un o nifer o hen chwareli llechi Gogledd Cymru.

Y 19eg ganrif

Ar ei hanterth yn y 19eg ganrif, Dinorwig oedd chwarel lechi ail fwyaf y byd. Yn y boreau, cerddai miloedd o ddynion mewn capiau fflat i fyny’r llwybr igam-ogam at gytiau’r chwarel yn uchel ar lethr Elidir, eu clocsiau’n clecian ar y gwastraff llechi.

Dechreuodd y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru ar raddfa fach, a thyfodd gyda’r diwylliant ei hun. Erbyn y cyfnod ffiwdal, roedd ychydig o deuluoedd yn ennill bywoliaeth o chwarela. Yn gyffredinol, roeddent yn byw ar dir comin, yn talu ffi denantiaeth i’r arglwydd lleol am chwarela ar ei dir, yn cludo llechi at y môr â cheffyl a throl ac yn eu hanfon i Loegr, Iwerddon ac, weithiau, Ffrainc.

Erbyn y 19eg ganrif, roedd cyfalafiaeth wedi gwreiddio. Roedd Deddfau Cau Tir wedi trosglwyddo’r rhan fwyaf o dir comin Prydain i arglwyddi lleol, gan ehangu ystadau preifat yn sylweddol er mwyn “cynyddu cynhyrchiant”. Roedd hawliau’r bobl i adnoddau cefn gwlad wedi diflannu i raddau helaeth, a Phrydain yn rhuthro tuag at y Chwyldro Diwydiannol — chwyldro yr oedd angen toeau arno.

Gwnaeth yr arglwyddi, a oedd bellach yn rheoli’r chwarela ar eu hystadau, elw enfawr. Os ydych wedi gyrru rhwng Bangor a Llanberis, rydych wedi mynd heibio i waliau Ystad y Faenol, lle’r oedd perchennog Chwarel Dinorwig yn byw. Ar ôl Deddf Cau Tir, tyfodd yr ystad i 35,000 erw.

Anogwyd chwarelwyr i adeiladu tai ar leiniau o’r tir caeedig hwn — am bris. Ymsefydlodd y rhai a wrthododd ar rydd-ddaliadau gerllaw. Wrth i’r chwareli dyfu, tyfodd pentrefi Deiniolen a Chlwt-y-bont ar y bryn ochr yn ochr â Chwarel Dinorwig. Datblygodd Llanberis yn bentref prysur hefyd.

Ar ei hanterth, cyflogai Chwarel Dinorwig 3,000 o ddynion. Erbyn hynny, roedd y tirfeddiannwr wedi adeiladu Port Dinorwig ar yr arfordir agosaf, rheilffordd stêm i gludo llechi yno, gweithdy mawreddog ac ysbyty chwarel modern iawn. Roedd yr ysbyty mewn man amlwg i bwysleisio ei statws a’i fwriad dyngarol.

Roedd system dalu lem yn gorfodi gweithwyr Dinorwig allan ym mhob tywydd: roedd yn rhaid cynhyrchu nifer penodol o lechi i gael eu cyflog misol. Yn y fideo uchod, dywed Mel Jones fod pawb yn helpu ei gilydd yn y chwarel, a bod rhywbeth arbennig rhwng y dynion.

Chwythwyd blociau o Fynydd Elidir a’u llifio a’u hollti yn y siediau islaw. Roedd y gwaith yn arbennig o beryglus i’r timau a oedd yn gyfrifol am gael blociau i lawr o’r ponciau. Byddent yn siglo â rhaff o amgylch eu coes, a lladdwyd rhai gan greigiau’n syrthio.

Yr 20fed ganrif

Cafodd y rhyfeloedd a’r Dirwasgiad Mawr effaith drom ar y diwydiant llechi, felly hefyd gystadleuaeth gan deils toi. Erbyn 1960, roedd gweithlu Dinorwig wedi gostwng i tua 300 ac roedd Ystad y Faenol wedi gwerthu llawer o’i thir. Yna, yn 1969, tra oedd y gweithwyr ar eu gwyliau haf, cyrhaeddodd llythyrau’n cyhoeddi bod y chwarel wedi cau am byth. Cafodd y dynion waith lle gallent, yn aml mewn ffatrïoedd yng Nghaernarfon a Bangor.

Yn dilyn y Chwyldro Diwydiannol a’r Deddfau Cau Tir, roedd awyr iach wedi dod yn eiddo i ddynion cyfoethog, fel yr ysgrifennodd Alastair Borthwick yn 1930. Fodd bynnag, arweiniodd ffyniant y 1950au a newidiadau’r 1960au at fwy o bobl nag erioed yn meddu ar arian sbâr, amser rhydd a cheir. Roedd Parciau Cenedlaethol cyntaf Prydain wedi agor, ac roedd dringo ym Mhrydain wedi ffynnu gyda thwf yn nifer y dringwyr o’r dosbarth gweithiol.

Mae’n rhaid bod Joe Brown, a oedd eisoes yn arloeswr llwybrau mawr ac anodd, yn aros wrth giatiau Chwarel Dinorwig: aeth i mewn bron cyn gynted ag y caeodd, â’i lygaid ar wal gefn enfawr Twll Mawr. Opening Gambit oedd enw’r llwybr.

Ond nid tan yr 1980au y dechreuodd dringo yn y chwareli ffynnu go iawn, diolch i ddychymyg Haston, Dawes, Redhead ac eraill. Yn 1981, glanhaodd Haston y llwybr sydd bellach yn eiconig, Comes the Dervish E3, â chyllell a fforc o gaffi chwedlonol y dringwyr, Pete’s Eats, cyn ei ddringo am y tro cyntaf a sbarduno’r don o lwybrau newydd.

Mae Chwareli Dinorwig bellach yn gartref i rai o ddringfeydd mwyaf brawychus, gorau, anoddaf a rhyfeddaf Eryri. Yn Bathtime Wall, er enghraifft, gellir dringo llwybrau megis Soap on a Rope E4 a Bathtime E5 ar eich pen eich hun heb raff dros ddŵr dwfn, diolch i lyn y chwarel. Mae Rainbow Slab, yn y cyfamser, yn un o slabiau unigol gorau Prydain, â chyfres o glasuron dringo traddodiadol i gyd-fynd ag ef.

Yr 21ain ganrif

Ac mae’r hanes wedi parhau: yn 2011, Steve McClure oedd y cyntaf i ddringo pob rhan o lwybr pedair rhan heriol Dawes, y Quarryman, mewn un diwrnod. Roedd llawer wedi ceisio a methu o’i flaen.

Beth sydd o flaen Dinorwig? Nid dringwyr yn unig sy’n mwynhau’r baradwys anghofiedig hon. Mae llwybrau troed drwy’r chwarel, a cherddwyr a rhedwyr yn crwydro ymhlith yr olion hanesyddol, o resi o farics a adeiladwyd i weithwyr a arhosai drwy’r wythnos i beiriannau’n rhydu mewn siediau.

Mae twristiaeth wrth droed y chwarel hefyd. Pan gaeodd Dinorwig, dangosodd Cyngor Sir Gaernarfon gryn ragwelediad drwy osod Gorchymyn Cadwraeth ar y gweithdy mawreddog, sydd bellach yn Amgueddfa Lechi Cymru. Mae’r locomotifau a arferai gludo llechi hefyd wedi cael bywyd newydd yn diddanu ymwelwyr.

A fydd dringo’n parhau i gael ei oddef, yn hytrach na’i ganiatáu’n ffurfiol, yn y chwareli hyn?


Pob Eitem Blog