Gemau gwersylla i’r teulu

Cartref > Blog > Gemau gwersylla i’r teulu


Yn y pwll, allan o’r pwll

Sut i chwarae…

  • Bydd angen un galwr. Mae pawb arall yn eistedd mewn cylch o amgylch y tân gwersyll, â’u dwylo ar eu cluniau.
  • Mae’r galwr yn dweud un o dri pheth, heb drefn benodol:
    • “Yn y pwll” — mae pawb yn rhoi eu dwylo ymlaen i’r cylch: y pwll!
    • “Allan o’r pwll” — mae pawb yn rhoi eu dwylo yn yr awyr uwch eu pennau.
    • “Ar y lan” — mae pawb yn rhoi eu dwylo ar eu cluniau.
  • Os bydd rhywun yn symud ei ddwylo i’r lle anghywir neu ar yr adeg anghywir, mae allan o’r gêm ac yn gorfod eistedd ar ei ddwylo nes bod un person yn weddill: yr enillydd!

Y gêm ffôn / sibrydion

Does dim gwell na’r hen ffefryn hwn ar gyfer gemau hwyr o amgylch y tân. Mae’n un o’r gemau gorau i blant os oes angen cadw’r sŵn yn isel. Serch hynny, gall fynd yn wirion iawn, gyda’r perygl cyson o chwerthin yn torri’r tawelwch!

Sut i chwarae…

  • Mae un person yn meddwl am ymadrodd, mor syml neu gymhleth ag y mynno. Os yw’n dechrau’n wirion, mae’n debygol o fynd yn fwy gwirion!
  • Mae’r person cyntaf yn sibrwd yr ymadrodd yng nghlust y person nesaf. Ni chaiff ei ailadrodd.
  • Mae’r gwrandäwr yn sibrwd yr hyn a glywodd i’r person nesaf, ac yn y blaen.
  • Pan fydd yr ymadrodd wedi mynd o amgylch y cylch, mae’r person olaf yn ei ddweud yn uchel wrth y grŵp. Gall y canlyniadau fod yn ddiddorol iawn!

Llofruddiaeth drwy wincio

Os oes actorion brwd yn eich grŵp, bydd gêm o lofruddiaeth drwy wincio yn eu cadw’n hapus am oriau!

Sut i chwarae…

  • Mae un person, y “ditectif”, yn gadael y tân gwersyll ac yn mynd allan o glyw.
  • Mae gweddill y grŵp yn dewis “llofrudd”. Dylai pawb wybod pwy ydyw.
  • Gwahoddir y ditectif yn ôl i’r cylch i arsylwi wrth i olygfa drosedd ddramatig ddatblygu o’i gwmpas.
  • Mae’r llofrudd yn “lladd” aelodau eraill drwy wincio arnynt. Os bydd y dioddefwr yn gweld y winc, rhaid iddo “farw”. Gall wneud hyn mor ddramatig ag y mynno, neu gau ei lygaid a gadael i’w ben syrthio i’r ochr.
  • Rhaid i’r ditectif ddarganfod y llofrudd yn gyflym cyn i’r grŵp cyfan gael ei ddileu! Os bydd yn llwyddo, mae’n ennill a dewisir ditectif newydd.
  • Os bydd y llofrudd yn dileu’r grŵp cyfan heb gael ei ddarganfod, mae’n ennill ac yn dod yn dditectif nesaf.

Charades

Mae charades yn un o’r gemau gorau i deuluoedd o amgylch tân gwersyll. Yn fras, mae un person yn actio teitl drama, llyfr, cân, rhaglen deledu neu ffilm i weddill y grŵp. Fodd bynnag, ni chaiff siarad na gwneud unrhyw sŵn! Mae pawb yn chwarae mewn ffordd wahanol, â rheolau gwahanol. Ond pan fydd pawb yn cytuno ar y rheolau, gall y gêm fynd ymlaen am byth.

Y person cyntaf i ddyfalu’r hyn sy’n cael ei actio yw’r perfformiwr nesaf. Mae rhai’n cadw sgôr i weld pwy fydd seren Oscar y dyfodol! Gellir chwarae mewn timau neu ddefnyddio amserydd i gynyddu’r gystadleuaeth. Ond fel arfer, yr hwyl a’r gwirioni yw’r bwriad!

Os ydych yn chwarae gyda phlant, mae’n syniad da ysgrifennu rhai syniadau iddynt eu tynnu o het. Fel arall, gall meddwl am bethau i’w hactio atal y gêm cyn iddi ddechrau. Gallwch hefyd ychwanegu thema.

Enwch y gân

Mae hon yn un o’r gemau gorau os oes cerddor yn y grŵp — rhywun sy’n gallu chwarae unrhyw gân ar y gitâr ar gais! Mae’n chwarae riff byr, cyflwyniad neu ran o gân, ac mae’r gweddill yn ceisio ei hadnabod mor gyflym â phosibl. Gallwch chwarae mewn timau neu gadw sgôr unigol.

Fel arall, gallwch chwarae mewn ffordd fwy cynhwysol, ac efallai llai melodaidd. Bydd yn fwy difyr, heb os! Ysgrifennwch nifer o ganeuon poblogaidd ar ddarnau o bapur a’u rhoi mewn het. Ar eich tro, tynnwch gân o’r het a’i chanu i’r grŵp, waeth pa mor dda y gallwch ganu.

Rhybudd: Mae’n well chwarae’r gêm hon yn gynharach gyda’r nos neu ar faes gwersylla lle nad oes neb arall!

Rhifau

Dyma un o’r gemau symlaf a mwyaf gwirion o amgylch tân gwersyll…

Sut i chwarae…

  • Y nod yw cyfrif yn uchel fel grŵp o 1 i’r rhif uchaf posibl, heb i ddau berson ddweud yr un rhif ar yr un pryd. Ffwrdd â chi!
  • Gall unrhyw un siarad unrhyw bryd a dweud cymaint o rifau ag y mynno, ar yr amod eu bod mewn trefn o 1 ymlaen. Ni chaniateir pwyntio na gwneud arwyddion i ddangos pwy sy’n siarad nesaf.
  • Cyn gynted ag y bydd dau berson yn dweud rhif ar yr un pryd, rhaid dechrau eto. Allwch chi gyrraedd 100?!

Es i i’r farchnad…

Gêm ardderchog i deuluoedd, ac un dda i brofi’r cof! Rwy’n hoffi ei chwarae â thema gwersylla.

Sut i chwarae…

  • Mae’r person cyntaf yn dweud: “Es i i’r farchnad a phrynu…” ac yn enwi eitem wersylla sy’n dechrau ag “A”, er enghraifft “adlen”.
  • Mae’r ail berson yn ailadrodd hynny — “Es i i’r farchnad a phrynu adlen” — ac yn ychwanegu eitem wersylla sy’n dechrau â “B”.
  • Mae’r trydydd yn ailadrodd yr hyn a ddywedodd yr ail ac yn ychwanegu eitem sy’n dechrau â “C”, ac yn y blaen.
  • Pan fydd rhywun yn gwneud camgymeriad, mae allan o’r gêm.

Enwogion: y gêm het

Dyma un o’r gemau gorau i blant a theuluoedd chwarae mewn timau. Bydd gan blant wybodaeth wahanol i’r oedolion, felly bydd rhaid gweithio gyda’i gilydd i ennill.

Sut i chwarae…

  • Mae pawb yn ysgrifennu enwau 5–10 o enwogion adnabyddus ar ddarnau o bapur, sy’n cael eu rhoi mewn het a’u cymysgu.
  • Mae gan un person o’r tîm cyntaf funud i ddisgrifio cymaint o’r enwau â phosibl i’w dîm. OND dim ond TRI gair a ganiateir ar gyfer pob enw. Ni chaniateir ystumiau na synau, a dim ond unwaith y gellir pasio yn ystod y tro.
  • Cyfrifir a chofnodir pob enw a ddyfalwyd yn gywir. Ni roddir yr enwau yn ôl yn yr het.
  • Yna mae’r tîm arall yn gwneud yr un peth.
  • Pan fydd pawb ym mhob tîm wedi cael tro i ddisgrifio, rhoddir pob enw yn ôl yn yr het a chwarae eto. Ond yn y rownd hon, dim ond UN gair a ganiateir!
  • Yn y rownd olaf, ni chaniateir UNRHYW eiriau!
  • Cadwch sgôr ar ôl pob rownd ac adiwch y cyfanswm ar y diwedd i gyhoeddi’r tîm buddugol.

Llysieuyn, llysieuyn

Mae’n debyg mai hon yw un o’r gemau mwyaf hurt a chwaraewyd gennym yn ddiweddar. Ond mae’n syml iawn, felly gall pob cenhedlaeth chwarae gyda’i gilydd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i blant chwerthin ar oedolion yn gwneud ffyliaid ohonynt eu hunain!

Sut i chwarae…

  • Mae un person yn dewis enw llysieuyn iddo’i hun. Mae’r person nesaf yn gwneud yr un peth, ac yn y blaen nes bod gan bawb enw gwahanol.
  • Mae un person yn dweud enw ei lysieuyn ei hun ddwywaith, yna enw llysieuyn rhywun arall ddwywaith: er enghraifft, “pwmpen, pwmpen, afocado, afocado”.
  • Mae afocado yn dweud ei enw ei hun ddwywaith, yna enw llysieuyn rhywun arall ddwywaith: “afocado, afocado, moronen, moronen”.
  • Mae moronen yn gwneud yr un peth, ac yn y blaen.
  • Y tric yw na chewch ddangos eich dannedd pan fyddwch yn siarad.
  • Gall y gêm barhau fel hyn, neu gallwch greu rheolau sy’n dileu pobl os ydynt yn dangos eu dannedd — ac hefyd os ydynt yn enwi llysieuyn sydd eisoes allan o’r gêm!

Pob Eitem Blog