Gwersylla gyda’ch ci

Cartref > Blog > Gwersylla gyda’ch ci


Ydych chi’n ystyried mynd â’ch ci ar daith wersylla yr haf hwn? Mae Nathan a’i deulu’n mynd ar deithiau gwersylla’n rheolaidd, ac wedi rhannu cyngor i sicrhau bod pawb yn cael amser gwych!

  • Ymarfer: Os mai dyma’ch tro cyntaf yn gwersylla gyda’ch ci, rhowch gynnig ar godi’r babell yn yr ardd. Codwch hi cyn eich taith fel y gall eich ci ei harchwilio yn ei amser ei hun, a rhowch ddanteithion ynddi i’w helpu i greu cysylltiad cadarnhaol â hi.
  • Ymchwilio: Cymerwch eich amser wrth ddewis maes gwersylla. Mae man cerdded da bob amser yn fantais, ac mae gan rai safleoedd ardaloedd rhedeg arbennig i gŵn! Gyda rhywfaint o ymchwil ar-lein, gallwch ddod o hyd i faes gwersylla perffaith sy’n croesawu cŵn ac sy’n addas i’ch teulu a’ch ci. Mae cwsmer ar Google Reviews wedi enwi maes gwersylla Llys Derwen ger Yr Wyddfa fel y gorau yn Eryri.
  • Paratoi’r offer: Meddyliwch ble bydd eich ci’n cysgu. Rwy’n hoff o wely wedi’i godi i’w gadw rhag drafftiau. Defnyddiwch dennyn hir neu gawell hefyd i’w gadw’n ddiogel os oes posibilrwydd y gall ddianc.
  • Cysuron cartref: Dewch â rhywbeth i ddiddanu eich ci, gan y bydd hyn yn ei helpu i setlo mewn amgylchedd anghyfarwydd. Fel arfer, rwy’n dod ag ambell hoff eitem o’r cartref, ynghyd â rhai pethau cnoi neu gyrn newydd i ychwanegu diddordeb.
  • Bod yn barod: Ystyriwch ragolygon y tywydd a phaciwch ar gyfer eich ci. Os bydd yn hynod boeth neu oer, ystyriwch a fydd eich ci’n mwynhau’r daith ac a yw’n briodol mynd ag ef.

Rhestr pacio ar gyfer eich ci

  • Coler gyda’ch rhif ffôn symudol, a thenynnau
  • Bwyd, dŵr a bowlenni – rwy’n pacio bwyd fesul pryd er mwyn dod â’r union faint sydd ei angen
  • Bagiau baw ci
  • Tywelion
  • Cawell cludadwy i’r ci a’i hoff flanced
  • Offer tynnu trogod
  • Pecyn cymorth cyntaf i gŵn
  • Angor cadarn i glymu eich ci iddo a thennyn priodol nad yw’n mynd yn glymau
  • Manylion cyswllt eich milfeddyg lleol
  • Cawell ar gyfer y car i gadw eich ci’n ddiogel ac yn gyfforddus ar y daith

Pob Eitem Blog