Gwersylla mewn tywydd poeth

Cartref > Blog > Gwersylla mewn tywydd poeth


1. Dewiswch eich llain yn ofalus

Mae manteision i wersylla yn y gwres: diwrnodau hir, braf a chynnes a digon o olau. Mae llain dda yn hanfodol, fodd bynnag, er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr haf a chadw’n oer. Dewiswch lain uchel sy’n cael awel, os oes modd, neu un sydd â digon o gysgod. Os nad oes cysgod ar y maes gwersylla, gosodwch darpolin adlewyrchol uwchben y babell i roi rhywfaint o amddiffyniad; mae hwn hefyd yn lle da i gadw blychau oeri bwyd a photeli dŵr.

2. Defnyddiwch leinin eich sach gysgu

Yn hytrach na chysgu mewn sach gysgu lawn yng ngwres yr haf, mae’n debygol y byddwch yn cysgu’n well gyda’r leinin yn unig. Cadwch weddill y sach gysgu wrth law rhag ofn bod oriau mân y bore yn oer.

Codwch eich pabell yn y cysgod i gael yr amddiffyniad gorau rhag yr haul.

3. Yfwch ddigon o ddŵr

Ar ddiwrnodau poeth, mae’n bwysig bod digon o ddŵr yfed ar gael — ac mae ei yfed yn hollbwysig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble mae cyflenwad dŵr y maes gwersylla, a defnyddiwch boteli dŵr wedi’u hinswleiddio, os oes modd, i gadw’r dŵr yn oer. Os ydych yn egnïol yn yr awyr agored yn y gwres, yn nofio neu’n cerdded, dylech yfed o leiaf dri litr o ddŵr y dydd.

4. Sicrhewch fod eich anifeiliaid anwes yn yfed digon hefyd

Mae’n hanfodol cadw cŵn ac anifeiliaid anwes eraill yn oer a sicrhau bod ganddynt ddigon o ddŵr. Ewch â phowlen ddŵr deithio, ei hail-lenwi’n rheolaidd a’i rhoi mewn lle oer, a sicrhau bod mynediad ati bob amser. Gall mynd ar wyliau gydag anifeiliaid anwes fod yn brofiad gwych; rydym wedi casglu cyngor ar wersylla gyda chŵn a’r pethau y mae angen eu hystyried.

Cofiwch yfed digon yn y gwres — mae potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio yn hanfodol!

5. Cadwch eich pabell yn oer

Y peth olaf sydd ei angen arnoch yw pabell sy’n teimlo fel popty microdon. Mae pebyll cotwm yn inswleiddio llai na phebyll polyester, ac yn ddewis gwell ar gyfer yr haf. Os ydych wedi dewis y lle gorau ac oeraf ond bod eich pabell yn dal yn boeth iawn, ystyriwch wyntyll gludadwy neu uned aerdymheru sydd wedi’i dylunio’n benodol ar gyfer gwersylla. Tynnwch orchudd allanol y babell yn gyfan gwbl ac agorwch yr awyrellau i ddal unrhyw awel.

6. Paciwch bwll chwyddadwy

Os nad yw nofio yn opsiwn, neu os oes gennych blant bach, mae pwll chwyddadwy yn syniad da. Gall gadw’r plant yn oer — efallai y byddwch am ei roi’n rhannol yn y cysgod — a rhoi cyfle i oedolion dasgu dŵr oer ar eu gyddfau a’u hwynebau. Gwlychwch eich het neu fandana ynddo i oeri ymhellach.

Defnyddiwch ddigon o eli haul i osgoi llosgi!

7. Cadwch amddiffyniad rhag yr haul wrth law bob amser

Nid rhywbeth ychwanegol dewisol yw hetiau, crysau llac â llewys hir o ddefnydd sy’n gadael aer drwyddo, ac eli haul pan fyddwch yn gwersylla yn y gwres: maent yn hanfodol. Bydd dillad tenau, golau eu lliw yn helpu i ostwng tymheredd y corff. Sicrhewch fod mannau sy’n aml yn cael eu hanghofio, megis y traed a chefn y gwddf, hefyd wedi’u hamddiffyn rhag llosg haul.


Pob Eitem Blog