Teithio i’r Wyddfa
Cartref > Blog > Teithio i’r Wyddfa
Teithio i’r Wyddfa yn Eryri o’ch maes gwersylla
Canllaw cynhwysfawr
Y ffyrdd gorau o gyrraedd Yr Wyddfa o un o feysydd gwersylla gorau’r DU, Maes Carafannau a Gwersylla Llys Derwen.
Ffioedd parcio a chyngor ar barcio cartrefi modur.
Cyflwyniad
Mae’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru, yn denu nifer fawr o ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn sicrhau ymweliad hwylus, mae’n hanfodol cynllunio eich trafnidiaeth a’ch trefniadau parcio ymlaen llaw. Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl am y ffyrdd gorau o gyrraedd Yr Wyddfa o Faes Carafannau a Gwersylla Llys Derwen, ffioedd parcio, a’r mannau mwyaf addas i barcio cerbydau mwy megis cartrefi modur.
Y ffyrdd gorau o gyrraedd Yr Wyddfa
Ar feic
O Faes Gwersylla Llys Derwen, gallwch deithio i Lanberis ar eich beic. Am y rhan fwyaf o’r daith, gallwch ddilyn llwybr beicio hyfryd ar hyd llyn Llanberis. Mae’r trac yn mynd yr holl ffordd i ganol Llanberis, ger Rheilffordd yr Wyddfa, lle gallwch gloi eich beic wrth un o’r mannau parcio beiciau a dechrau dringo ar Lwybr Llanberis. Gofynnwch i Nathan ar y maes gwersylla am fapiau a rhagor o fanylion am y llwybrau beicio 😊
Ar fws
Mae sawl gwasanaeth bws yn teithio at Yr Wyddfa. Mae gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn arbennig o ddefnyddiol. Mae’r arhosfan dair munud o gerdded o Faes Gwersylla Llys Derwen, gyferbyn â thafarn y Glyntwrog. Mae’n rhedeg o 6:53yb, ac yna am 53 munud wedi pob awr hyd at y bws olaf am 17:53. Mae bws S1 yn cysylltu mannau cychwyn amrywiol o amgylch Yr Wyddfa, gan gynnwys Llanberis, Pen-y-Pass a Betws-y-Coed.
Yn y car
Mae gyrru at Yr Wyddfa’n cynnig hyblygrwydd a chyfleustra. Mae nifer o feysydd parcio, yn enwedig ger mannau cychwyn poblogaidd megis Llanberis, Pen-y-Pass a Rhyd Ddu.
Ffioedd parcio
Mae meysydd parcio’r Wyddfa’n tueddu i lenwi’n gyflym, ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw ym Mhen-y-Pass bellach. Dyma’r ffioedd ar gyfer rhai o’r prif feysydd parcio:
Maes parcio Pen-y-Pass
Parcio ym maes parcio Pen-y-Pass, Parc Cenedlaethol Eryri. Rhaid archebu eich lle ymlaen llaw.
Rhaid archebu o leiaf awr ymlaen llaw.
Yr isafswm pris yw £20 am sesiwn barcio wyth awr.
Os nad yw’r ap yn dangos unrhyw le, ceisiwch addasu eich amseroedd ychydig, gan y gallai fod lle ar gael.
5 metr yw hyd mwyaf cerbyd a ganiateir yn y maes parcio hwn.
Sicrhewch eich bod yn archebu digon o amser ar gyfer eich taith i gopa’r Wyddfa, gan fod lleoedd yn gyfyngedig a bod ymestyn arhosiad yn dibynnu ar argaeledd.
Mae parcio am ddim ar gael i ddeiliaid Bathodyn Glas ym maes parcio Pen-y-Pass. Nid oes angen archebu na thalu am y lle ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae ar gael ar sail y cyntaf i’r felin, fel erioed, felly efallai y bydd y lle eisoes yn llawn pan gyrhaeddwch. Mae hyn hyd yn oed yn fwy tebygol yn ystod misoedd prysur yr haf. Mae staff ar y safle 24 awr y dydd sy’n hapus i helpu os byddwch yn cyrraedd a’r lle eisoes wedi’i gymryd.
Os hoffech archebu slot dwy awr ar gyfer teithiau cerdded byr rhwng 16:00 a 22:00, sicrhewch fod hyd yr arhosiad wedi’i osod i ddwy awr neu lai ar ôl 16:00 er mwyn i’r opsiwn arhosiad byr ymddangos. Mae hyd yr arhosiad yn newid yn awtomatig bob tro y gwnewch chwiliad newydd. Cynllun peilot yw’r maes parcio arhosiad byr, a dim ond hyd at 23 Gorffennaf 2023 y mae ar gael. NID ydym yn argymell ceisio cyrraedd copa’r Wyddfa yn y slot hwn. Caniatewch 5–8 awr ar gyfer taith i’r copa.
NI CHANIATEIR GWERSYLLA DROS NOS NAC AROS MEWN FANIAU GWERSYLLA NEU GARTREFI MODUR.
Dydd Llun–dydd Sul
00:00–23:59
Hyd at 8 awr: £20.00
8–12 awr: £30.00
Y dydd: £40.00
Maes parcio Rhyd Ddu
- Ffi ddyddiol: £6.00
Meysydd parcio Llanberis
Mae sawl maes parcio yn Llanberis, â ffioedd amrywiol. Argymhellir gwirio’r arwyddion lleol am y wybodaeth ddiweddaraf.
Y mannau gorau i barcio cartrefi modur
Mae mannau penodol o amgylch Yr Wyddfa lle gall cartrefi modur barcio dros nos. Ymhlith y mannau a argymhellir fwyaf mae:
Maes parcio Nant Peris
Mae’r maes parcio hwn yn caniatáu i gartrefi modur aros dros nos ac yn cynnig cyfleusterau sylfaenol. Mae’n agos at lwybr bws Sherpa’r Wyddfa, sy’n ei gwneud yn hawdd cyrraedd gwahanol fannau cychwyn.
Meysydd parcio awyr agored Llanberis
Mae rhai meysydd parcio yn Llanberis yn derbyn cerbydau mwy. Mae’r rhain yng nghanol Llanberis, gyferbyn â’r llyn a’r rheilffordd stêm. Cofiwch wirio’r arwyddion am y rheolau a’r rheoliadau diweddaraf.
Casgliad
Gall ymweld â’r Wyddfa fod yn brofiad cofiadwy, a gall cynllunio trafnidiaeth a pharcio’n iawn wella eich taith. P’un a ddewiswch fws neu gar, a ph’un a oes angen lle parcio ar gyfer car neu gartref modur, bydd yr opsiynau yn y canllaw hwn yn eich helpu i wneud y gorau o’ch ymweliad â’r Wyddfa.